Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2017
Amser: 09.16 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3882
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Huw Bryer, Ymchwil OB3 |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Chynghorwr Cyfreithiol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Huw Bryer, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ymchwil OB3 ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ystyried y camau nesaf ar gyfer cyflwyno Bil Pwyllgor.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal cyfarfod allanol ffurfiol yng Nghasnewydd ac i gymryd rhan mewn sesiwn ymgysylltu addysgol fel rhan o'r digwyddiad Senedd@Casnewydd ar 23 Mawrth 2017.